Draenog
Bocs dirgel - Cardiau Nadolig
Bocs dirgel - Cardiau Nadolig
SKU:
Methu llwytho argaeledd casglu
Casgliad arbennig o'n cardiau Nadolig poblogaidd am brisiau arbennig. Dyma gyfle perffaith i gael stoc o gardiau er mwyn bod yn barod at y Nadolig!
Mae'r cardiau yn cael eu gwerthu am hyd at £3 yr un yn unigol, felly wrth brynu bocs rydych yn arbed dipyn ar bob cerdyn.
Bydd eich bocs yn cynnwys amrywiaeth o gardiau Nadolig, er enghraifft:
- Nadolig Llawen
- Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda
- Cyfarchion yr Ŵyl
- Tinsel ar y goeden
- Seren yn y nen
- Blwyddyn newydd dda
- Nadolig Llawen o'n tŷ ni i'ch tŷ chi
Os hoffech dderbyn cerdyn penodol, rhowch nodyn yn y blwch 'add a note to your order' ac fe wnawn ein gorau i gynnwys y cerdyn. Nid ydym yn gallu sicrhau bydd pob cerdyn ar gael yn y bocs.
Gwybodaeth am y cardiau
- Mae pob bocs yn cynnwys cardiau wedi'u pecynnu yn unigol a chardiau heb eu pecynnu
- Amlenni cyfatebol wedi'u cynnwys
- Maint y cardiau: 105mm x 150mm, 148mm x 148mm a 74mm x 105mm
- Mae pob cerdyn yn wag tu mewn ar gyfer eich neges
Mae'r lluniau er enghraifft yn unig, ac mae'n bosib bydd eich bocs yn cynnwys cardiau sydd ddim yn cael eu dangos yn y lluniau. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Rhannu
