Amdanom ni
Croeso!

Cwmni dylunio wedi'w leoli yng Nghaernarfon ydi Draenog. Rydym yn creu cardiau cyfarch ac anrhegion cyfoes.
Mae ein holl gasgliadau yn cael eu dylunio yng Nghymru gan Anwen Roberts. Rydym yn arbenigo mewn cynhyrchu cardiau Cymraeg o'r safon gorau, ac rydym hefyd yn cynhyrchu cardiau Saesneg ac anrhegion unigryw. Ein hamcan ydi i sefyll allan gyda'n dyluniadau lliwgar a chyfoes. Rydym yn gobeithio eich bod yn mwynhau ein nwyddau cymaint ag yr ydym ni yn mwynhau eu creu!
Mae'r enw 'Draenog' yn dod o enw'r fferm lle cafodd Anwen ei magu yn sir Drefaldwyn.