Draenog
Bocs o 10, 15, 20 neu 30 cerdyn Cymraeg - Pen-blwydd, diolch a mwy
Bocs o 10, 15, 20 neu 30 cerdyn Cymraeg - Pen-blwydd, diolch a mwy
SKU:bocs-10
Methu llwytho argaeledd casglu
Casgliad arbennig o'n cardiau mwyaf poblogaidd am brisiau arbennig. Dyma gyfle perffaith i gael stoc o gardiau er mwyn bod yn barod at unrhyw achlysur!
Gallwch ddewis bocs o 10, 15, 20 neu 30 cerdyn unigol. Mae'r cardiau yn cael eu gwerthu am £2.75 neu £3 yr un yn arferol, felly wrth brynu bocs rydych yn arbed hyd at £1.60 ar bob cerdyn.
Bydd eich bocs yn cynnwys amrywiaeth o gardiau o gasgliadau Blodwen, Helo'r Aur!, Brethyn and Pop! ac o leiaf:
- 4 x cerdyn pen-blwydd
- 2 x gerdyn diolch
- cardiau cyffredinol: pob lwc, llongyfarchiadau, yn meddwl amdanoch, cariad
Os hoffech dderbyn cerdyn penodol, rhowch nodyn yn y blwch 'add a note to your order' ac fe wnawn ein gorau i gynnwys y cerdyn. Nid ydym yn gallu sicrhau bydd pob cerdyn ar gael yn y bocs.
Gwybodaeth am y cardiau
- Mae pob bocs yn cynnwys cardiau wedi'u pecynnu yn unigol a chardiau heb eu pecynnu
- Amlenni cyfatebol wedi'u cynnwys
- Maint y cardiau: 105mm x 150mm a 148mm x 148mm
- Gwag tu mewn ar gyfer eich neges
Mae'r lluniau er enghraifft yn unig, ac mae'n bosib bydd eich bocs yn cynnwys cardiau sydd ddim yn cael eu dangos yn y lluniau. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Rhannu

Gwasanaeth ardderchog a cardiau o ansawdd gwych, braf cefnogi busnes bach lleol