Priodasau
Mae ein casgliad o ddyluniadau priodas cyfoes yn cynnwys popeth byddwch angen cyn, yn ystod ac ar ôl eich diwrnod arbennig.
Enghreifftiau o nwyddau priodas
Cewch 5% i ffwrdd archeb nwyddau priodas os ydych yn archebu enghraifft / sampl o'n dyluniadau priodas. Byddwn yn anfon ebost gyda'r manylion unigryw ar ôl i chi archebu eich enghraifft.
Dyluniadau priodas wedi'w creu yn arbennig ar eich cyfer
Mae'r holl ddyluniadau yn gallu cael eu newid i weddu'n berffaith gyda thema a lliwiau eich priodas. Mae pob dyluniad wedi ei greu i ddangos dwy iaith, neu mae'n bosib cael y dyluniad gydag un iaith yn unig os dyna ydi eich dewis.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth ac i drafod eich nwyddau priodas.
Adborth
Rydym wrth ein boddau yn clywed yn ôl gan barau priod yn dilyn eu diwrnod mawr. Dyma ychydig o eiriau caredig am wasanaeth ac ansawdd nwyddau priodas Draenog.
"Diolch yn fawr am wneud yr holl broses mor rhwydd a di-drafferth. Mae wedi bod yn bleser a dwi wedi dy argymell i gymaint o bobl ar hyd y ffordd! Yn sicr, nid pawb oedd mor drefnus ac roedd cael syniad o’r amserlen a sut roeddet ti’n rhoi awgrymiadau yn bendant yn helpu pethau."
Leila a Rhys - Hydref 2017
"Roedd yn bleser cydweithio efo Anwen. Fe wnaeth ddeall ein gofynion reit o’r cychwyn gan greu dyluniad reit unigryw a ffres mewn amser byr iawn. Roeddem wrth ein bodd efo’r canlyniad.
Byddem yn argymell defnyddio Draenog ar gyfer unrhyw waith dylunio sydd gennych!"
Aneira a Robyn - Mehefin 2017
"O’r cychwyn cynta roedd Anwen yn frwdfrydig ac yn greadigol ar ôl derbyn ein briff ar gyfer y cynllun bwrdd. Roedd ei gwaith hi yn hyfryd iawn ac yn bersonol i ni, cawsom gymaint o sylwadau da ar y dydd gan ei fod mor drawiadol.
Bydde Mark a finne yn argymell Draenog Design i unrhyw un – bydd y gwaith ar amser, yn bersonol ac or safon uchaf. Diolch eto Anwen am helpu greu diwrnod sbesial iawn i ni ar ddiwrnod ein priodas."
Mared a Mark - Rhagfyr 2016
"Mae Anwen o Draenog yn greadigol dros ben a dyluniodd gwahoddiadau cyfoes bendigedig - oedd yn dilyn lliwiau'r briodas - gan gynnwys cardiau RSVP, cardiau bwydlen ar bob bwrdd, cardiau enw pob bwrdd a chynllun eistedd ein gwesteion.
Roedd popeth ar amser, o safon uchel ac am bris rhesymol. Cynhyrchodd Draenog bopeth ddwywaith (am ein bod ni eisiau gwahoddiadau Cymraeg a Saesneg) heb unrhyw drafferth.
Diolch i ti Anwen am wasanaeth proffesiynol, unigryw a phleserus."
Anwen a Huw - Gorffennaf 2012
Achlysuron
-
Sul y Tadau
Cardiau a bathodynnau ar gyfer Dad, Taid a Tadcu! Dathlwch Sul y...
-
Diwedd tymor
Cardiau ac anrhegion i ddweud diolch i athro neu athrawes arbennig ac...
