Delivery - Jumpers

Rydym yn ymdrechu i bostio eich archeb ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i chi osod eich archeb. Ewch i dudalennau nwyddau i weld amseroedd postio penodol.

Cysylltwch â ni os yw eich archeb yn un brys, fe wnawn ein gorau i'ch helpu chi.

Mae'n bosib bydd oedi gyda rhai archebion ar hyn o bryd oherwydd Royal Mail, felly ceisiwch archebu cyn gynted ag y gallwch.

Diolch o galon am gefnogi busnes bach yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae pob un archeb yn meddwl y byd i ni!

Gwasanaeth ysgrifennu ac anfon cardiau

Os hoffech i ni ysgrifennu neges yn eich cerdyn a'i anfon yn syth at y derbynnydd, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw:

  • ychwanegu nodyn at eich archeb gyda’r neges yr hoffech gael ei ysgrifennu y tu mewn i’r cerdyn (fe welwch yr adran ‘Ychwanegu nodyn i'ch archeb’ yn eich basged siopa)
  • ychwanegu'r cyfeiriad danfon i anfon y cerdyn

Os ydych chi'n prynu mwy nag un eitem, bydd angen i chi wneud archeb ar wahan ar gyfer pob cyfeiriad postio.

Costau postio

Mae cludiant am ddim gydag unrhyw archeb i'r DU dros £30.

Mae costau postio archebion eraill wedi'u seilio ar gyfanswm pwysau eich archeb.

Y Deyrnas Unedig

Gwasanaeth Manylion Pris

Free UK Delivery on orders over £30 (Royal Mail 2nd Class)

£30 a throsodd Am ddim
Royal Mail 1st Class (up to 100g) Hyd at 100g (3 cherdyn cyfarch) £1.50
Royal Mail 1st Class (up to 750g)
Hyd at 750g £2.50
Royal Mail 1st Class (up to 2kg)
Hyd at 2kg £4.50
Royal Mail or Courier service (over 2kg) Dros 2kg £8

Tu allan i'r Deyrnas Unedig

7-10 diwrnod gwaith (Royal Mail International Standard)

  • Hyd at 100g (3 cherdyn cyfarch) = £5.00
  • 100g - 500g = £10.00
  • 500g a throsodd = £20.00

Cysylltwch â ni os bydd gennych unrhyw gwestiynau o gwbl neu os hoffech i ni ddefnyddio dull postio sydd heb ei restru uchod.

Archebion cyfanwerthu

Bydd angen caniatáu hyd at 10 diwrnod gwaith ar gyfer derbyn archebion mawr cyfanwerthu.  Cysylltwch â ni os ydych angen eich archeb ar frys a gwnawn ein gorau i'ch helpu.