Postio
Rydym yn ymdrechu i bostio eich archeb ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i chi osod eich archeb. Ewch i dudalennau nwyddau i weld amseroedd postio penodol.
Cysylltwch â ni os yw eich archeb yn un brys, fe wnawn ein gorau i'ch helpu chi.
Mae'n bosib bydd oedi gyda rhai archebion ar hyn o bryd oherwydd Royal Mail, felly ceisiwch archebu cyn gynted ag y gallwch.
Diolch o galon am gefnogi busnes bach yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae pob un archeb yn meddwl y byd i ni!
Dyddiadau archebu olaf - Nadolig 2020
Y dyddiad olaf ar gyfer archebu erbyn Nadolig i bostio o fewn y DU ydi:
- Eitemau heb eu personoli: dydd Llun 14 Rhagfyr 2020
- Eitemau sydd wedi eu personoli: dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2020
Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod eich archeb yn cyrraedd mewn pryd, ond os byddwch yn archebu ar ôl y dyddiadau yma, mae'n bosib ni fydd eich archeb yn cyrraedd erbyn diwrnod Nadolig.
Bydd unrhyw archebion sy'n ein cyrraedd rhwng 20 Rhagfyr 2020 a 5 Ionawr 2021 yn cael eu hanfon ar ôl 6 Ionawr 2021.
Gwasanaeth ysgrifennu ac anfon cardiau
Os hoffech i ni ysgrifennu neges yn eich cerdyn a'i anfon yn syth at y derbynnydd, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw:
- ychwanegu nodyn at eich archeb gyda’r neges yr hoffech gael ei ysgrifennu y tu mewn i’r cerdyn (fe welwch yr adran ‘Ychwanegu nodyn i'ch archeb’ yn eich basged siopa)
- ychwanegu'r cyfeiriad danfon i anfon y cerdyn
Os ydych chi'n prynu mwy nag un eitem, bydd angen i chi wneud archeb ar wahan ar gyfer pob cyfeiriad postio.
Costau postio
Mae cludiant am ddim gydag unrhyw archeb i'r DU dros £30.
Mae costau postio archebion eraill wedi'u seilio ar gyfanswm pwysau eich archeb.
Y Deyrnas Unedig
| Gwasanaeth | Manylion | Pris |
|
Free UK Delivery on orders over £30 (Royal Mail 2nd Class) |
£30 a throsodd | Am ddim |
| Royal Mail 1st Class (up to 100g) | Hyd at 100g (3 cherdyn cyfarch) | £1.50 |
|
|
Hyd at 750g | £2.50 |
|
|
Hyd at 2kg | £6 |
| Royal Mail or Courier service (over 2kg) | Dros 2kg | £8 |
Tu allan i'r Deyrnas Unedig
7-10 diwrnod gwaith (Royal Mail International Standard)
- Hyd at 100g (3 cherdyn cyfarch) = £5.00
- 100g - 500g = £10.00
- 500g a throsodd = £20.00
Cysylltwch â ni os bydd gennych unrhyw gwestiynau o gwbl neu os hoffech i ni ddefnyddio dull postio sydd heb ei restru uchod.
Archebion cyfanwerthu
Bydd angen caniatáu hyd at 10 diwrnod gwaith ar gyfer derbyn archebion mawr cyfanwerthu. Cysylltwch â ni os ydych angen eich archeb ar frys a gwnawn ein gorau i'ch helpu.
Achlysuron
-
Sul y Tadau
Cardiau a bathodynnau ar gyfer Dad, Taid a Tadcu! Dathlwch Sul y...
-
Diwedd tymor
Cardiau ac anrhegion i ddweud diolch i athro neu athrawes arbennig ac...