Tudalen lliwio gallwch argraffu yn cynnwys y geiriau 'Diolch yn fawr' mewn dyluniad enfys. Mae'r cynllun wedi'i darlunio â llaw a'r daflen yn barod i'w hargraffu.
Mwynhewch liwio'r dyluniad gwreiddiol hwn. Argraffwch ar bapur maint safonol A4 a defnyddiwch eich hoff bensiliau, beiros neu baent i'w gwneud yn lliwgar! Bydd y ffeil yn barod i'w lawrlwytho a gellir ei argraffu gymaint o weithiau ag y dymunwch!
Mae'r cynllun yn addas ar gyfer oedolion a phlant. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer lliwio digidol hefyd.
Yn cynnwys:
- PDF safon uchel yn barod i'w argraffu ar gyfer a lliwio
- Maint A4 (29.7cm x 21cm)
Cysylltwch â ni i ofyn am ddyluniadau neu eiriau newydd. Peidiwch ag anghofio rhannu eich creadigaethau lliwgar a'n tagio ar Instagram neu Facebook! (Draenog / @draenogdesign)
At ddefnydd personol yn unig. Ni chaniateir copïo, gwerthu na defnyddio'r dyluniad mewn unrhyw ffordd na chytunwyd arno.
Gwaith celf gwreiddiol gan Anwen Roberts.
© 2020 Draenog / Anwen Roberts. Cedwir pob hawl.
Rydym yn ymdrechu i bostio eich archeb ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i chi osod eich archeb. Ewch i dudalennau nwyddau i weld amseroedd postio penodol.
Cysylltwch â ni os yw eich archeb yn un brys, fe wnawn ein gorau i'ch helpu chi.
Diolch o galon am gefnogi busnes bach. Mae pob un archeb yn meddwl y byd i ni!
Costau postio
Mae cludiant am ddim gydag unrhyw archeb i'r DU dros £45.
Mae costau postio archebion eraill wedi'u seilio ar gyfanswm cost eich archeb.
Y Deyrnas Unedig
| Cyfanswm cost yr archeb |
Royal Mail 2nd Class (2-4 diwrnod ar ôl postio) |
Royal Mail 1st Class (1-2 diwrnod ar ôl postio) |
| Hyd at £10 | £2.50 | £3.50 |
| £10.01 i £44.99 | £4.50 | £6.50 |
| £45 a throsodd | AM DDIM | £6.50 |
| Next Day Courier (APC)* | £12 |
* Rhaid i archebion cael eu gosod cyn 12 hanner dydd er mwyn eu hanfon ar yr un dydd gyda'r gwasanaeth diwrnod nesaf. Mae hwn yn wasanaeth Llun - Gwener yn unig.
Ewrop
Nid yw'n bosib i ni anfon archebion i wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.
Gweddill y byd
Mae'r prynwr yn gyfrifol am dalu unrhyw gostau neu drethau tollau.
| Gwasanaeth | Manylion | Pris |
| Royal Mail International Standard | Hyd at 100g | £4 |
|
|
O 100g i 250g | £6 |
|
|
O 250g i 2kg | £12 |
Cysylltwch â ni os bydd gennych unrhyw gwestiynau o gwbl neu os hoffech i ni ddefnyddio dull postio sydd heb ei restru uchod.
Archebion cyfanwerthu
Rydym yn ymdrechu i anfon archebion cyfanwerthu o fewn 5-10 diwrnod gwaith o gadarnhau'r archeb. Cysylltwch â ni os ydych angen eich archeb ar frys a gwnawn ein gorau i'ch helpu.
Gwasanaeth ysgrifennu ac anfon cardiau
Os hoffech i ni ysgrifennu neges yn eich cerdyn a'i anfon yn syth at y derbynnydd, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw:
- ychwanegu nodyn at eich archeb gyda’r neges yr hoffech gael ei ysgrifennu y tu mewn i’r cerdyn (fe welwch yr adran ‘Ychwanegu nodyn i'ch archeb’ yn eich basged siopa)
- ychwanegu'r cyfeiriad danfon i anfon y cerdyn
Os ydych chi'n prynu mwy nag un eitem, bydd angen i chi wneud archeb ar wahan ar gyfer pob cyfeiriad postio.