Cart 0
Bocs dirgel - Cardiau Nadolig

Bocs dirgel - Cardiau Nadolig

£17.50

Casgliad arbennig o'n cardiau Nadolig poblogaidd am brisiau arbennig. Dyma gyfle perffaith i gael stoc o gardiau er mwyn bod yn barod at y Nadolig!

Mae'r cardiau yn cael eu gwerthu am hyd at £3 yr un yn unigol, felly wrth brynu bocs rydych yn arbed dipyn ar bob cerdyn.

Bydd eich bocs yn cynnwys amrywiaeth o gardiau Nadolig, er enghraifft:

  • Nadolig Llawen
  • Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda
  • Cyfarchion yr Ŵyl
  • Tinsel ar y goeden
  • Seren yn y nen
  • Blwyddyn newydd dda
  • Nadolig Llawen o'n tŷ ni i'ch tŷ chi

Os hoffech dderbyn cerdyn penodol, rhowch nodyn yn y blwch 'add a note to your order' ac fe wnawn ein gorau i gynnwys y cerdyn. Nid ydym yn gallu sicrhau bydd pob cerdyn ar gael yn y bocs.

Gwybodaeth am y cardiau

  • Mae pob bocs yn cynnwys cardiau wedi'u pecynnu yn unigol a chardiau heb eu pecynnu
  • Amlenni cyfatebol wedi'u cynnwys
  • Maint y cardiau: 105mm x 150mm, 148mm x 148mm a 74mm x 105mm
  • Mae pob cerdyn yn wag tu mewn ar gyfer eich neges

Mae'r lluniau er enghraifft yn unig, ac mae'n bosib bydd eich bocs yn cynnwys cardiau sydd ddim yn cael eu dangos yn y lluniau. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Rydym yn ymdrechu i bostio eich archeb ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i chi osod eich archeb. Ewch i dudalennau nwyddau i weld amseroedd postio penodol.

Cysylltwch â ni os yw eich archeb yn un brys, fe wnawn ein gorau i'ch helpu chi.

Diolch o galon am gefnogi busnes bach. Mae pob un archeb yn meddwl y byd i ni!

Costau postio

Mae cludiant am ddim gydag unrhyw archeb i'r DU dros £45.

Mae costau postio archebion eraill wedi'u seilio ar gyfanswm cost eich archeb.

Y Deyrnas Unedig

Cyfanswm cost yr archeb Royal Mail 2nd Class
(2-4 diwrnod ar ôl postio)
Royal Mail 1st Class
(1-2 diwrnod ar ôl postio)
Hyd at £10 £2.50 £3.50
£10.01 i £44.99 £4.50 £6.50
£45 a throsodd AM DDIM £6.50

Next Day Courier (APC)* £12

* Rhaid i archebion cael eu gosod cyn 12 hanner dydd er mwyn eu hanfon ar yr un dydd gyda'r gwasanaeth diwrnod nesaf. Mae hwn yn wasanaeth Llun - Gwener yn unig.

Ewrop

Nid yw'n bosib i ni anfon archebion i wledydd yn yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.

Gweddill y byd

Mae'r prynwr yn gyfrifol am dalu unrhyw gostau neu drethau tollau.

Gwasanaeth Manylion Pris
Royal Mail International Standard  Hyd at 100g £4
Royal Mail International Standard
O 100g i 250g £6
Royal Mail International Standard 
O 250g i 2kg £12

Cysylltwch â ni os bydd gennych unrhyw gwestiynau o gwbl neu os hoffech i ni ddefnyddio dull postio sydd heb ei restru uchod.

Archebion cyfanwerthu

Rydym yn ymdrechu i anfon archebion cyfanwerthu o fewn 5-10 diwrnod gwaith o gadarnhau'r archeb.  Cysylltwch â ni os ydych angen eich archeb ar frys a gwnawn ein gorau i'ch helpu.

Gwasanaeth ysgrifennu ac anfon cardiau

Os hoffech i ni ysgrifennu neges yn eich cerdyn a'i anfon yn syth at y derbynnydd, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw:

  • ychwanegu nodyn at eich archeb gyda’r neges yr hoffech gael ei ysgrifennu y tu mewn i’r cerdyn (fe welwch yr adran ‘Ychwanegu nodyn i'ch archeb’ yn eich basged siopa)
  • ychwanegu'r cyfeiriad danfon i anfon y cerdyn

Os ydych chi'n prynu mwy nag un eitem, bydd angen i chi wneud archeb ar wahan ar gyfer pob cyfeiriad postio.


Share this product


More from this collection

Liquid error (layout/theme line 407): Could not find asset snippets/bk-tracking.liquid