Geiriau dy wahoddiadau priodas - Pum peth pwysig
Rhannu
Gall dewis y geiriau gorau ar gyfer eich nwyddau priodas teimlo yn anodd. Faint o wybodaeth ddylech chi gynnwys a pha dôn llais dylech ei ddefnyddio?
Yn Draenog, rydym yn helpu cyplau i ddewis y geiriau iawn i wneud i'w gwahoddiad holl bwysig yn bersonol ac yn berffaith iddyn nhw.
- Dangos eich personoliaeth - Paid ofni rhag rhoi darnau bach personol i eiriau dy wahoddiad. Defnyddia eiriau fel 'ein diwrnod mawr' yn lle 'priodas' i gadw'r dôn yn ysgafn, neu os 'dech chi wrth eich boddau gyda phêl-droes, pam lai a rhoi amser 'y gic gyntaf' neu 'kick off'!
- Traddodiad pia hi - Bydd cynnwys enwau eich rhieni ar eich gwahoddiad yn gweddu ag arddull traddodiadol.
- Syml i ateb - Bydd cynnwys dyddiad a cherdyn ymateb RSVP yn ei wneud yn hawdd i chi ac i'ch gwesteion i ymateb. Gallwch gynnwys lle i holi am fanylion fel dewis bwyd neu gân i'w chwarae yn y parti nos.
- Dwy iaith ar un gwahoddiad - Os ydych chi neu deulu eich partner yn siarad mwy nag un iaith, rhowch y manylion yn y ddwy iaith ar eich gwahoddiadau.
- Eich gwesteion arbennig - Gallwch gynnwys geiriad llai ffurfiol gan ddangos i'ch gwesteion eu bod yn arbennig i chi, gyda thestun fel 'Byddem wrth ein boddau yn rhannu ein dathliad gyda chi!'.
Newydd ddyweddio? Llongyfarchiadau!
Yn draddodiadol, cyfoes neu hollol unigryw, pa bynnag arddull hoffech chi ei gael ar gyfer eich priodas, gallwn eich tywys i greu popeth o gardiau cadw'r dyddiad i gardiau diolch. Cysylltwch â ni am sgwrs am greu eich nwyddau priodas perffaith.
Mae ein holl ddyluniadau yn gallu cael eu haddasu i weddu'n berffaith gyda thema a lliwiau eich priodas, neu os ydych yn chwilio am rywbeth hollol unigryw, holwch am ein gwasanaeth nwyddau priodas arbennig.
Gweld drosoch eich hun
Beth am weld y gwahoddiadau dros eich hun a theimlo ansawdd y cerdyn? Archebwch enghraifft a byddwch yn derbyn 5% i ffwrdd eich archeb priodas.