Cerddi Cymraeg i ddefnyddio yn eich priodas
Rhannu
Mae ychwanegu manylion personol yn ffordd hyfryd i wneud eich priodas yn unigryw. Bydd cynnwys geiriau cân neu gerdd sy'n golygu rhywbeth i chi yn rhoi naws arbennig a phersonol i'ch dathliadau.
Gallwch gynnwys y geiriau mewn darlleniad yn y gwasanaeth, ar arwydd i addurno eich gwledd priodas neu eu cynnwys ar eich gwahoddiadau.
Dyma rai o'n hoff gerddi a chaneuon Cymraeg y gallwch eu defnyddio yn eich priodas:
Priodas - Dic Jones

Dwy galon, un dyhead,
Dwy dafod ond un iaith,
Dwy raff yn cydio’n ddolen,
Dau enaid ond un daith.
Mi gerddaf gyda thi

Mi gerddaf gyda thi dros lwybrau maith
A blodau can a breuddwyd ar ein taith
I’th lygaid syllaf a dal dy law
Mi gerddaf gyda thi beth bynnag ddaw.
Cofio Dy Wyneb - Mynediad am Ddim / Bryn Fôn
Beth am ddefnyddio geiriau o gân sydd yn arbennig i chi. Dyma'r gân serch boblogaidd gan Bryn Fôn!

Dwi'n cofio dy wyneb
Yn edrych ar fy ngwyneb
Dy lygaid yn edrych i fy llygaid,
Dy law ar fy ysgwydd
A'th galon ym mhoced cesail fy nghot.
Calon Lân

Cynllunio eich priodas perffaith?
Pa gân neu gerdd byddech yn ei gynnwys yn eich priodas? Gallwn roi unrhyw eiriau o'ch dewis ar eich nwyddau priodas i greu nwyddau byddwch chi a'ch gwesteion wrth eu boddau yn eu derbyn!
Mae ein holl ddyluniadau yn gallu cael eu haddasu i weddu'n berffaith gyda thema a lliwiau eich priodas, neu os ydych yn chwilio am rywbeth hollol unigryw, holwch am ein gwasanaeth nwyddau priodas arbennig.
Gweld drosoch eich hun
Beth am weld y gwahoddiadau dros eich hun a theimlo ansawdd y cerdyn? Archebwch enghraifft am ddim a byddwch yn derbyn 5% i ffwrdd eich archeb briodas.