Be' sy'n Gymreig am Galan Gaeaf?
Rhannu
Roeddwn i bob amser yn meddwl bod dathlu Calan Gaeaf yng Nghymru yn rhywbeth sydd wedi'w ddylanwadu gan yr Unol Daleithiau. Roeddwn i'n credu bod yr arfer o blant yn mynd i 'trick or treat' ddiwedd mis Hydref yn rhywbeth a welsom mewn ffilmiau ac fe'n hysbrydolwyd i'w gopïo yma. Ond rydw i wedi bod yn gwneud rhywfaint o ymchwil yn ddiweddar ac mae hanes yng Nghymru sy'n cysylltu â dathlu Calan Gaeaf.
Ychydig o ffeithiau am Calan Gaeaf:
- Calan Gaeaf yw'r enw ar ddiwrnod cyntaf y gaeaf yng Nghymru, a gydnabyddir yn draddodiadol fel 1 Tachwedd.
- Mae dathlu Noson Galan Gaeaf yn tarddu o'r ŵyl Geltaidd hynafol, Samhain.
- Mae'r term 'Kalan Gayaf' wedi'i gofnodi gyntaf mewn llenyddiaeth fel rhan o Gyfreithiau Hywel Dda yn y ddegfed ganrif.
- Roedd yr 'Hwch Ddu Gwta' yn un o'r ysbrydion mwyaf brawychus sy'n gysylltiedig â Noson Galan Gaeaf.
Mae masnacheiddio Calan Gaeaf yn ddatblygiad mwy diweddar, ond mae gan themâu 31 Hydref hanes Celtaidd a Chymreig.
Cardiau Calan Gaeaf Cymraeg
Dathlwch 31 Hydref eleni wrth anfon cerdyn. Neu beth am fframio cerdyn i greu addurn i ddefnyddio blwyddyn ar ôl blwyddyn?
Mwy o wybodaeth: BBC Bitesize Spooky Wales - Noson Galan Gaeaf
